20. bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, “Ni biau'r dŵr.” Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.
21. Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglŷn â hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna.
22. Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglŷn â hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth, a dweud, “Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad.”
23. Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.
24. Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, “Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham.”
25. Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw'r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno.
26. Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin.
27. Gofynnodd Isaac iddynt, “Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghasáu a'm gyrru oddi wrthych?”
28. Atebasant hwythau, “Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, ‘Bydded llw rhyngom’, a gwnawn gyfamod â thi,
29. na wnei di ddim drwg i ni, yn union fel na fu i ni gyffwrdd â thi, na gwneud dim ond daioni iti a'th anfon ymaith mewn heddwch. Yn awr, ti yw bendigedig yr ARGLWYDD.”
30. Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed.
31. Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch.
32. Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, “Cawsom ddŵr.”
33. Galwodd yntau ef Seba; am hynny Beerseba yw enw'r ddinas hyd heddiw.
34. Pan oedd Esau'n ddeugain mlwydd oed, priododd Judith ferch Beeri yr Hethiad, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad;
35. a buont yn achos gofid i Isaac a Rebeca.