1. Yr oedd Abraham yn hen ac oedrannus, ac yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ef ym mhob dim.
2. Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, “Gosod dy law dan fy nghlun,
3. a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith,
4. ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.”
5. Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?”
6. Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.
7. Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, ‘Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion’, bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno.
8. Os na fydd y wraig am ddod ar dy ôl, yna byddi'n rhydd oddi wrth y llw hwn; ond paid â mynd â'm mab yn ôl yno.”