Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw.

16. Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.”

17. Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?”

18. A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!”

19. Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17