Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 15:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.

7. Yna dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu.”

8. Ond dywedodd ef, “O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?”

9. Dywedodd yntau wrtho, “Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen.”

10. Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar.

11. A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.

12. Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.

13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;

14. ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer.

15. Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 15