Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 15:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar.

11. A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.

12. Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.

13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 15