Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 15:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, “Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn.”

2. Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?”

3. Dywedodd Abram hefyd, “Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd.”

4. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.”

5. Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.”

6. Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.

7. Yna dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu.”

8. Ond dywedodd ef, “O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?”

9. Dywedodd yntau wrtho, “Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen.”

10. Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 15