Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 12:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A pharhaodd Abram i symud yn raddol tua'r Negef.

10. Yr oedd newyn yn y tir, ac aeth Abram i lawr i'r Aifft i aros yno dros dro, am fod y newyn yn fawr yn y tir.

11. A phan oedd ar gyrraedd yr Aifft, dywedodd wrth Sarai ei wraig, “Gwn yn dda dy fod yn wraig brydferth;

12. a phan wêl yr Eifftiaid di, fe ddywedant, ‘Dyma ei wraig.’ A lladdant fi, a'th gadw di'n fyw.

13. Dywed mai fy chwaer wyt, fel y bydd yn dda i mi o'th herwydd ac yr arbedir fy mywyd o'th achos.”

14. Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, gwelodd yr Eifftiaid fod y wraig yn brydferth iawn.

15. A gwelodd tywysogion Pharo hi a'i chanmol wrth Pharo, a chymerwyd y wraig i dŷ Pharo.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 12