Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 12:2-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith.

3. Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”

4. Aeth Abram fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ac aeth Lot gydag ef. Saith deg a phump oedd oed Abram pan aeth allan o Haran.

5. A chymerodd Abram ei wraig Sarai, a Lot mab ei frawd, a'r holl feddiannau a gasglwyd ganddynt, a'r tylwyth a gawsant yn Haran, a chychwyn i wlad Canaan. Wedi iddynt ddod i wlad Canaan,

6. tramwyodd Abram trwy'r tir hyd safle Sichem, at dderwen More. Y Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw,

7. ond ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram a dweud, “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon.” Adeiladodd yntau allor yno i'r ARGLWYDD, a oedd wedi ymddangos iddo.

8. Yna symudodd oddi yno i'r mynydd-dir tua'r dwyrain o Fethel a gosod ei babell, gyda Bethel o'i ôl ac Ai o'i flaen; adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, a galw ar enw'r ARGLWYDD.

9. A pharhaodd Abram i symud yn raddol tua'r Negef.

10. Yr oedd newyn yn y tir, ac aeth Abram i lawr i'r Aifft i aros yno dros dro, am fod y newyn yn fawr yn y tir.

11. A phan oedd ar gyrraedd yr Aifft, dywedodd wrth Sarai ei wraig, “Gwn yn dda dy fod yn wraig brydferth;

12. a phan wêl yr Eifftiaid di, fe ddywedant, ‘Dyma ei wraig.’ A lladdant fi, a'th gadw di'n fyw.

13. Dywed mai fy chwaer wyt, fel y bydd yn dda i mi o'th herwydd ac yr arbedir fy mywyd o'th achos.”

14. Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, gwelodd yr Eifftiaid fod y wraig yn brydferth iawn.

15. A gwelodd tywysogion Pharo hi a'i chanmol wrth Pharo, a chymerwyd y wraig i dŷ Pharo.

16. Bu yntau'n dda wrth Abram er ei mwyn hi; a chafodd Abram ganddo ddefaid, ychen, asynnod, gweision, morynion, asennod a chamelod.

17. Ond trawodd yr ARGLWYDD Pharo a'i dŷ â phlâu mawr, o achos Sarai gwraig Abram.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 12