Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 1:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Yna dywedodd Duw, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.

15. Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear.” A bu felly.

16. Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd.

17. A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 1