Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 5:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Treisir gwragedd yn Seion,a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.

12. Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,ac ni pherchir yr henuriaid.

13. Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin,a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.

14. Gadawodd yr henuriaid y porth,a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.

15. Diflannodd llawenydd o'n calonnau,a throdd ein dawnsio yn alar.

16. Syrthiodd y goron oddi ar ein pen;gwae ni, oherwydd pechasom.

17. Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol,ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:

18. am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch,a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.

19. Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 5