Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 5:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni;edrych a gwêl ein gwarth.

2. Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid,a'n tai i ddieithriaid.

3. Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau,a'n mamau fel gweddwon.

4. Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn,a phrynu'r coed a gawn.

5. Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir;yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.

6. Gwnaethom gytundeb â'r Aifft,ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.

7. Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach;ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 5