Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:42-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela,ac nid wyt ti wedi maddau.

43. Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid,yn lladd yn ddiarbed.

44. Ymguddiaist mewn cwmwlrhag i'n gweddi ddod atat.

45. Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthionymysg y bobloedd.

46. Y mae'n holl elynionyn gweiddi'n groch yn ein herbyn.

47. Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl,hefyd mewn difrod a dinistr.

48. Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵro achos dinistr merch fy mhobl;

49. y mae'n diferu'n ddi-baid,heb gael gorffwys,

50. hyd onid edrycha'r ARGLWYDDa gweld o'r nefoedd.

51. Y mae fy llygad yn flinder imio achos dinistr holl ferched fy ninas.

52. Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achosyn fy erlid yn wastad fel aderyn.

53. Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew,ac yn taflu cerrig arnaf.

54. Llifodd y dyfroedd trosof,a dywedais, “Y mae ar ben arnaf.”

55. Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD,o waelod y pydew.

56. Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddari'm cri am gymorth.”

57. Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat;dywedaist, “Paid ag ofni.”

58. Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos,ac yn gwaredu fy mywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3