Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni,a maluriodd f'esgyrn.

5. Gwnaeth warchae o'm cwmpas,a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder.

6. Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.

7. Caeodd arnaf fel na allwn ddianc,a gosododd rwymau trwm amdanaf.

8. Pan elwais, a gweiddi am gymorth,fe wrthododd fy ngweddi.

9. Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion,a gwneud fy llwybrau'n gam.

10. Y mae'n gwylio amdanaf fel arth,fel llew yn ei guddfa.

11. Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio,ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.

12. Paratôdd ei fwa, a'm gosodyn nod i'w saeth.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3