Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:25-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo,i'r rhai sy'n ei geisio.

26. Y mae'n dda disgwyl yn dawelam iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

27. Da yw bod un yn cymryd yr iau arnoyng nghyfnod ei ieuenctid.

28. Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun,a bod yn dawel pan roddir hi arno;

29. boed iddo osod ei enau yn y llwch;hwyrach fod gobaith iddo.

30. Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro,a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg.

31. Oherwydd nid yw'r Arglwyddyn gwrthod am byth;

32. er iddo gystuddio,bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr,

33. gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofidac yn cystuddio pobl.

34. Sathru dan draedholl garcharorion y ddaear,

35. a thaflu o'r neilltu hawl rhywungerbron y Goruchaf,

36. a gwyrdroi achos—Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn?

37. Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwyddheb i'r Arglwydd ei drefnu?

38. Onid o enau'r Goruchafy daw drwg a da?

39. Sut y gall unrhyw un byw rwgnach,ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb?

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3