Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Paratôdd ei fwa, a'm gosodyn nod i'w saeth.

13. Anelodd saethau ei gawella'u trywanu i'm perfeddion.

14. Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd,yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.

15. Llanwodd fi â chwerwder,a'm meddwi â'r wermod.

16. Torrodd fy nannedd â cherrig,a gwneud imi grymu yn y lludw.

17. Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch;anghofiais beth yw daioni.

18. Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth,a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.”

19. Cofia fy nhrallod a'm crwydro,y wermod a'r bustl.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3