Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Myfi yw'r gŵr a welodd ofiddan wialen ei ddicter.

2. Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerddedtrwy dywyllwch lle nad oedd goleuni.

3. Daliodd i droi ei law yn f'erbyn,a hynny ddydd ar ôl dydd.

4. Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni,a maluriodd f'esgyrn.

5. Gwnaeth warchae o'm cwmpas,a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder.

6. Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.

7. Caeodd arnaf fel na allwn ddianc,a gosododd rwymau trwm amdanaf.

8. Pan elwais, a gweiddi am gymorth,fe wrthododd fy ngweddi.

9. Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion,a gwneud fy llwybrau'n gam.

10. Y mae'n gwylio amdanaf fel arth,fel llew yn ei guddfa.

11. Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio,ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.

12. Paratôdd ei fwa, a'm gosodyn nod i'w saeth.

13. Anelodd saethau ei gawella'u trywanu i'm perfeddion.

14. Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd,yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.

15. Llanwodd fi â chwerwder,a'm meddwi â'r wermod.

16. Torrodd fy nannedd â cherrig,a gwneud imi grymu yn y lludw.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3