Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 2:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Fel gelyn paratôdd ei fwa,safodd â'i ddeheulaw'n barod,ac fel gwrthwynebwr fe laddoddy cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad;tywalltodd ei lid fel tânar babell merch Seion.

5. Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elynac wedi difetha Israel;difethodd ei holl balasau,a dinistrio'i hamddiffynfeydd;gwnaeth i alar a gofidgynyddu i ferch Jwda.

6. Chwalodd ei babell fel chwalu gardd,a dinistrio'r man cyfarfod;gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofioei gŵyl a'i Saboth;yn angerdd ei lid dirmygoddfrenin ac offeiriad.

7. Gwrthododd yr Arglwydd ei allor,a ffieiddio'i gysegr;rhoddodd furiau ei phalasauyn llaw'r gelyn;gwaeddasant hwythau yn nhŷ'r ARGLWYDDfel ar ddydd gŵyl.

8. Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynolo ddinistrio mur merch Seion;gosododd linyn mesur arni,ac ni thynnodd yn ôl ei law rhag difetha.Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru;aethant i gyd yn wan.

9. Suddodd ei phyrth i'r ddaear;torrodd a maluriodd ef ei barrau.Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd,ac nid oes cyfraith mwyach;ni chaiff ei phroffwydiweledigaeth gan yr ARGLWYDD.

10. Y mae henuriaid merch Seionyn eistedd yn fud ar y ddaear,wedi taflu llwch ar eu pennaua gwisgo sachliain;y mae merched ifainc Jerwsalemwedi crymu eu pennau i'r llawr.

11. Dallwyd fy llygaid gan ddagrau;y mae f'ymysgaroedd mewn poen.Yr wyf yn tywallt fy nghalon allano achos dinistr merch fy mhobl,ac am fod plant a babanod yn llewyguyn strydoedd y ddinas.

12. Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,“Ple cawn ni rawn a gwin?”—wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedigyn strydoedd y ddinas,ac wrth iddynt ymladd am eu bywydym mynwes eu mamau.

13. Beth allaf ei ddweud o'th blaid,a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,y forwyn, ferch Seion?Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,pwy a all dy iacháu?

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 2