Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,“Ple cawn ni rawn a gwin?”—wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedigyn strydoedd y ddinas,ac wrth iddynt ymladd am eu bywydym mynwes eu mamau.

13. Beth allaf ei ddweud o'th blaid,a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,y forwyn, ferch Seion?Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,pwy a all dy iacháu?

14. Yr oedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwyddog a thwyllodrus;ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedder mwyn adfer dy lwyddiant;yr oedd yr oraclau a roddasant itiyn gelwyddog a chamarweiniol.

15. Y mae pob un sy'n mynd heibioyn curo'i ddwylo o'th achos;y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennauar ferch Jerwsalem:“Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch,ac yn llawenydd yr holl ddaear?”

16. Y mae dy holl elynionyn gweiddi'n groch yn dy erbyn,yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd;dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha;dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano;yr ydym wedi cael ei weld!”

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 2