Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwyddar ferch Seion yn ei ddig!Bwriodd ogoniant Israelo'r nefoedd i'r llawr,ac ni chofiodd am ei droedfaincyn nydd ei ddicter.

2. Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbedholl drigfannau Jacob;yn ei ddigofaint dinistrioddamddiffynfeydd merch Jwda;taflodd i lawr a difwynoddy deyrnas a'i phenaethiaid.

3. Yn angerdd ei ddig torroddgyrn Israel i gyd;tynnodd yn ôl ei ddeheulawwrth i'r gelyn ymosod;llosgodd yn Jacob fel fflam dânyn difa popeth o'i hamgylch.

4. Fel gelyn paratôdd ei fwa,safodd â'i ddeheulaw'n barod,ac fel gwrthwynebwr fe laddoddy cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad;tywalltodd ei lid fel tânar babell merch Seion.

5. Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elynac wedi difetha Israel;difethodd ei holl balasau,a dinistrio'i hamddiffynfeydd;gwnaeth i alar a gofidgynyddu i ferch Jwda.

6. Chwalodd ei babell fel chwalu gardd,a dinistrio'r man cyfarfod;gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofioei gŵyl a'i Saboth;yn angerdd ei lid dirmygoddfrenin ac offeiriad.

7. Gwrthododd yr Arglwydd ei allor,a ffieiddio'i gysegr;rhoddodd furiau ei phalasauyn llaw'r gelyn;gwaeddasant hwythau yn nhŷ'r ARGLWYDDfel ar ddydd gŵyl.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 2