Galarnad 1:21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Gwrandewch pan wyf yn griddfan,heb neb i'm cysuro.Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,a llawenhau am iti wneud hyn;ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,a byddant hwythau fel finnau.