Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 9:8-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o huddygl o ffwrn, a bydded i Moses ei daflu i'r awyr yng ngŵydd Pharo.

9. Fe dry'n llwch mân dros holl dir yr Aifft, gan achosi cornwydydd poenus ar ddyn ac anifail trwy holl wlad yr Aifft.”

10. Felly cymerasant yr huddygl o'r ffwrn, a sefyll o flaen Pharo, a thaflodd Moses y lludw i'r awyr. Achosodd gornwydydd poenus ar ddyn ac anifail.

11. Ni allai'r swynwyr sefyll o flaen Moses o achos y cornwydydd, oherwydd yr oeddent arnynt hwythau yn ogystal â'r Eifftiaid.

12. Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, ac ni wrandawodd ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cod yn gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo, a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli;

14. oherwydd y tro hwn yr wyf am anfon fy holl blâu arnat ti ac ar dy weision a'th bobl, er mwyn i chwi wybod nad oes neb tebyg i mi yn yr holl ddaear.

15. Erbyn hyn, gallaswn fod wedi estyn allan fy llaw a'th daro di a'th bobl â haint, a'th dorri ymaith oddi ar y ddaear;

16. ond gadewais iti fyw er mwyn dangos iti fy nerth a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.

17. Ond yr wyt ti'n dal i wrthsefyll fy mhobl, ac yn gwrthod eu rhyddhau.

18. Felly, tua'r adeg yma yfory, byddaf yn peri iddi fwrw cenllysg trwm, na welwyd ei debyg yn yr Aifft o ddydd ei sylfaenu hyd heddiw.

19. Anfon rywun ar unwaith i gasglu ynghyd dy anifeiliaid a'r cyfan sydd gennyt yn y maes, oherwydd fe ddisgyn y cenllysg ar bob dyn ac anifail a fydd yn dal allan yn y maes heb ei ddwyn i loches, a byddant farw.’ ”

20. Yr oedd y sawl o blith gweision Pharo oedd yn parchu gair yr ARGLWYDD yn brysio i ddod â'i weision a'i anifeiliaid i loches,

21. ond gadawodd y sawl oedd yn diystyru gair yr ARGLWYDD ei weision a'i anifeiliaid allan yn y maes.

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, i ddod â chenllysg ar holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac anifail ac ar bopeth sy'n tyfu yn y maes trwy wlad yr Aifft.”

23. Estynnodd Moses ei wialen tua'r nefoedd, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a chenllysg, a mellt yn gwibio i lawr i'r ddaear, a pheri iddi fwrw cenllysg ar dir yr Aifft.

24. Yr oedd cenllysg yn disgyn a mellt yn fflachio yn ei ganol; yr oedd y cenllysg yn drymach na dim a welwyd yn holl wlad yr Aifft er pan sylfaenwyd hi yn genedl.

25. Trawodd y cenllysg bopeth oedd yn y maes, yn ddyn ac anifail, trwy holl wlad yr Aifft; curodd ar yr holl lysiau a drylliodd bob coeden.

26. Yr unig fan lle nad oedd cenllysg oedd gwlad Gosen, lle'r oedd yr Israeliaid.

27. Anfonodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud wrthynt, “Yr wyf fi wedi pechu y tro hwn; yr ARGLWYDD sy'n iawn, a minnau a'm pobl ar fai.

28. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, oherwydd cawsom ddigon ar y taranau hyn a'r cenllysg; fe'ch rhyddhaf, ac nid oes rhaid i chwi aros yma'n hwy.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 9