24. Yr oedd cenllysg yn disgyn a mellt yn fflachio yn ei ganol; yr oedd y cenllysg yn drymach na dim a welwyd yn holl wlad yr Aifft er pan sylfaenwyd hi yn genedl.
25. Trawodd y cenllysg bopeth oedd yn y maes, yn ddyn ac anifail, trwy holl wlad yr Aifft; curodd ar yr holl lysiau a drylliodd bob coeden.
26. Yr unig fan lle nad oedd cenllysg oedd gwlad Gosen, lle'r oedd yr Israeliaid.
27. Anfonodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud wrthynt, “Yr wyf fi wedi pechu y tro hwn; yr ARGLWYDD sy'n iawn, a minnau a'm pobl ar fai.
28. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, oherwydd cawsom ddigon ar y taranau hyn a'r cenllysg; fe'ch rhyddhaf, ac nid oes rhaid i chwi aros yma'n hwy.”
29. Dywedodd Moses wrtho, “Pan af allan o'r ddinas, estynnaf fy nwylo at yr ARGLWYDD; bydd diwedd ar y taranau, ac ni bydd rhagor o genllysg, er mwyn iti wybod mai eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear.
30. Ond gwn nad wyt ti na'th weision eto yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.”