Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 36:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Cydiodd Besalel bum llen wrth ei gilydd, a'r pum llen arall hefyd wrth ei gilydd.

11. Gwnaeth ddolennau glas ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

12. Gwnaeth hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, a'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.

13. Gwnaeth hefyd hanner cant o fachau aur, a chydiodd y llenni wrth ei gilydd â'r bachau, er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.

14. Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

15. Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 36