Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 36:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Bydd Besalel, Aholïab, a phob un dawnus y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu a'r medr i wneud pob math o waith yng ngwasanaeth y cysegr, yn gweithio yn unol â'r cyfan y mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddynt.”

2. Galwodd Moses Besalel, Aholïab, a phob un dawnus yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu, ac a oedd yn fodlon dod i wneud y gwaith,

3. a derbyniasant gan Moses bob offrwm a roesai pobl Israel o'u gwirfodd ar gyfer y gwaith yng ngwasanaeth y cysegr. Yr oedd y bobl yn dal i ddod ag offrwm ato o'u gwirfodd bob bore;

4. a bu'n rhaid i bob un dawnus a oedd yn gwneud y gwaith yn y cysegr adael ei orchwyl,

5. a dweud wrth Moses, “Y mae'r bobl yn dod â mwy na digon ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD inni ei wneud.”

6. Felly rhoddodd Moses orchymyn, a chyhoeddwyd drwy'r gwersyll nad oedd na gŵr na gwraig i gyfrannu dim rhagor at offrwm y cysegr. Yna peidiodd y bobl â dod â rhagor,

7. oherwydd yr oedd y deunydd oedd ganddynt yn fwy na digon ar gyfer yr holl waith.

8. Yr oedd yr holl rai medrus ymhlith y gweithwyr wedi gwneud y tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu, ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt.

9. Yr oedd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

10. Cydiodd Besalel bum llen wrth ei gilydd, a'r pum llen arall hefyd wrth ei gilydd.

11. Gwnaeth ddolennau glas ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

12. Gwnaeth hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, a'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.

13. Gwnaeth hefyd hanner cant o fachau aur, a chydiodd y llenni wrth ei gilydd â'r bachau, er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.

14. Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

15. Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 36