Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 34:8-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli.

9. Yna dywedodd, “Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.”

10. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.

11. Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.

12. Gwylia rhag iti wneud cyfamod â thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.

13. Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.

14. Paid ag ymgrymu i dduw arall, oherwydd

15. Eiddigeddus yw enw'r ARGLWYDD, a Duw eiddigeddus ydyw. Paid â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad rhag iddynt, wrth buteinio ar ôl eu duwiau ac aberthu iddynt, dy wahodd dithau i fwyta o'u haberth,

16. ac i gymryd eu merched i'th feibion; a rhag i'w merched, wrth iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, wneud i'th feibion buteinio ar ôl eu duwiau hwy.

17. “Paid â gwneud i ti ddelwau tawdd.

18. “Cadw ŵyl y Bara Croyw. Yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, fel y gorchmynnais iti, oherwydd ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.

19. “Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid.

20. Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.

21. “Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf.

22. “Cadw hefyd ŵyl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.

23. Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 34