Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 34:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ond galwodd Moses arnynt, a throdd Aaron a holl arweinwyr cynulliad Israel ato, a siaradodd Moses â hwy.

32. Yna daeth holl bobl Israel ato, a gorchmynnodd iddynt yr holl bethau yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu dweud wrtho ar Fynydd Sinai.

33. Pan orffennodd Moses siarad â hwy, rhoddodd orchudd ar ei wyneb,

34. ond pan fyddai'n mynd o flaen yr ARGLWYDD i siarad ag ef, byddai'n tynnu'r gorchudd nes iddo ddod allan, ac wedi dod allan, byddai'n dweud wrth bobl Israel yr hyn a orchmynnwyd iddo.

35. A phan welent hwy fod croen ei wyneb yn disgleirio, byddai Moses yn rhoi'r gorchudd yn ôl ar ei wyneb nes y byddai'n mynd i mewn eto i siarad â Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 34