Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 34:10-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.

11. Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.

12. Gwylia rhag iti wneud cyfamod â thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.

13. Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.

14. Paid ag ymgrymu i dduw arall, oherwydd

15. Eiddigeddus yw enw'r ARGLWYDD, a Duw eiddigeddus ydyw. Paid â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad rhag iddynt, wrth buteinio ar ôl eu duwiau ac aberthu iddynt, dy wahodd dithau i fwyta o'u haberth,

16. ac i gymryd eu merched i'th feibion; a rhag i'w merched, wrth iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, wneud i'th feibion buteinio ar ôl eu duwiau hwy.

17. “Paid â gwneud i ti ddelwau tawdd.

18. “Cadw ŵyl y Bara Croyw. Yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, fel y gorchmynnais iti, oherwydd ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.

19. “Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid.

20. Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.

21. “Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf.

22. “Cadw hefyd ŵyl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.

23. Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn.

24. Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw.

25. “Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â chadw aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 34