1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Nadd ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, ac fe ysgrifennaf arnynt y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a dorraist.
2. Bydd barod erbyn y bore, a thyrd i fyny'n gynnar i Fynydd Sinai, ac aros amdanaf yno ar ben y mynydd.
3. Nid oes neb i ddod i fyny gyda thi, nac i ymddangos yn unman ar y mynydd; a phaid â gadael i ddefaid na gwartheg bori ar gyfyl y mynydd hwn.”
4. Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
5. Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD.
6. Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: “Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb;
7. yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid.”
8. Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli.
9. Yna dywedodd, “Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.”
10. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.
11. Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
12. Gwylia rhag iti wneud cyfamod â thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.