Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 32:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn;

10. yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr.”

11. Ymbiliodd Moses â'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, “O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft â nerth mawr ac â llaw gadarn?

12. Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, ‘Â malais yr aeth â hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear’? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl.

13. Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, ‘Amlhaf eich disgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.’ ”

14. Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.

15. Trodd Moses, a mynd i lawr o'r mynydd â dwy lech y dystiolaeth yn ei law, llechau ag ysgrifen ar y ddau wyneb iddynt.

16. Yr oedd y llechau o waith Duw, ac ysgrifen Duw wedi ei cherfio arnynt.

17. Pan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, dywedodd wrth Moses, “Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.”

18. Ond meddai yntau, “Nid sŵn gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond sŵn canu.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 32