Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 32:30-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, “Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod.”

31. Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, “Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur.

32. Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist.”

33. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr.

34. Yn awr, dos, ac arwain y bobl i'r lle y dywedais wrthyt, a bydd fy angel yn mynd o'th flaen. Ond fe ddaw dydd pan ymwelaf â hwy am eu pechod.”

35. Anfonodd yr ARGLWYDD bla ar y bobl am yr hyn a wnaethant â'r llo a luniodd Aaron.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 32