Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 32:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, “Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft.”

2. Dywedodd Aaron wrthynt, “Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â hwy ataf fi.”

3. Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant â hwy at Aaron.

4. Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin â chŷn, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, “Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.”

5. Pan welodd Aaron y llo tawdd, adeiladodd allor o'i flaen a chyhoeddodd, “Yfory bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.”

6. Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod â heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.

7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost â hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain.

8. Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, ‘Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.’ ”

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn;

10. yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr.”

11. Ymbiliodd Moses â'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, “O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft â nerth mawr ac â llaw gadarn?

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 32