Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 3:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.’ Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth.

16. Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld â chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft,

17. ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.’

18. Bydd henuriaid Israel yn gwrando arnat; dos dithau gyda hwy at frenin yr Aifft a dweud wrtho, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi ymweld â ni; yn awr gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch er mwyn inni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’

19. Ond yr wyf yn gwybod na fydd brenin yr Aifft yn caniatáu i chwi fynd oni orfodir ef â llaw gadarn.

20. Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid â'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd.

21. Gwnaf i'r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl hyn, a phan fyddwch yn ymadael, nid ewch yn waglaw,

22. oherwydd bydd pob gwraig yn gofyn i'w chymdoges neu i unrhyw un yn ei thÅ· am dlysau o arian ac o aur, a dillad. Gwisgwch hwy am eich meibion a'ch merched, ac ysbeiliwch yr Aifft.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 3