1. Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw.
2. Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam dân o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar dân ond heb ei difa.
3. Dywedodd Moses, “Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi.”
4. Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, “Moses, Moses.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”
5. Yna dywedodd Duw, “Paid â dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.”
6. Dywedodd hefyd, “Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob.” Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw.
7. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.