Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 3:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw.

2. Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam dân o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar dân ond heb ei difa.

3. Dywedodd Moses, “Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi.”

4. Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, “Moses, Moses.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”

5. Yna dywedodd Duw, “Paid â dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.”

6. Dywedodd hefyd, “Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob.” Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw.

7. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.

8. Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.

9. Yn awr y mae gwaedd pobl Israel wedi dod ataf, ac yr wyf wedi gweld fel y bu'r Eifftiaid yn eu gorthrymu.

10. Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o'r Aifft.”

11. Ond gofynnodd Moses i Dduw, “Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?”

12. Dywedodd yntau, “Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 3