Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yna tyrd â'i feibion, a'u gwisgo â'r siacedau;

9. rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.

10. “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;

11. yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12. Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29