Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gosod y benwisg ar ei ben, a rho'r goron gysegredig ar y benwisg.

7. Cymer olew'r ennaint a'i dywallt ar ei ben, a'i eneinio.

8. Yna tyrd â'i feibion, a'u gwisgo â'r siacedau;

9. rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.

10. “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29