Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:42-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Bydd hwn yn boethoffrwm gwastadol dros y cenedlaethau wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD; yno byddaf yn cyfarfod â chwi i lefaru wrthych.

43. Yn y lle hwnnw byddaf yn cyfarfod â phobl Israel, ac fe'i cysegrir trwy fy ngogoniant.

44. Cysegraf babell y cyfarfod a'r allor; cysegraf hefyd Aaron a'i feibion i'm gwasanaethu fel offeiriaid.

45. Byddaf yn preswylio ymhlith pobl Israel, a byddaf yn Dduw iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29