Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:24-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. rho'r cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

25. Yna cymer hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor gyda'r poethoffrwm yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD; offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD ydyw.

26. “Cymer frest hwrdd ordeinio Aaron, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; dy eiddo di fydd y rhan hon.

27. Cysegra'r rhannau o'r hwrdd sy'n eiddo i Aaron a'i feibion, sef y frest a chwifir a'r glun a neilltuir.

28. Dyma gyfraniad pobl Israel i Aaron a'i feibion trwy ddeddf dragwyddol, oherwydd cyfran yr offeiriaid ydyw, a roddir gan bobl Israel o'u heddoffrymau; eu hoffrwm hwy i'r ARGLWYDD ydyw.

29. “Bydd dillad cysegredig Aaron yn eiddo i'w feibion ar ei ôl, er mwyn eu heneinio a'u hordeinio ynddynt.

30. Bydd y mab a fydd yn ei ddilyn fel offeiriad yn eu gwisgo am saith diwrnod pan ddaw i babell y cyfarfod i wasanaethu yn y cysegr.

31. “Cymer hwrdd yr ordeinio, a berwi ei gig mewn lle cysegredig;

32. yna bydd Aaron a'i feibion yn bwyta cig yr hwrdd, a'r bara sydd yn y fasged, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

33. Y maent i fwyta'r pethau y gwnaed cymod â hwy adeg eu hordeinio a'u cysegru; ni chaiff neb arall eu bwyta am eu bod yn gysegredig.

34. Os gadewir peth o gig yr ordeinio neu o'r bara yn weddill hyd y bore, yr wyt i'w losgi â thân; ni cheir ei fwyta, am ei fod yn gysegredig.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29