Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Dyma'r hyn a wnei i'w cysegru'n offeiriaid i'm gwasanaethu: cymer un bustach ifanc a dau hwrdd di-nam;

2. cymer hefyd beilliaid gwenith heb furum, a gwna fara, cacennau wedi eu cymysgu ag olew, a theisennau ag olew wedi ei daenu arnynt.

3. Rho hwy mewn un fasged i'w cyflwyno gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.

4. Yna tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr.

5. Cymer y dillad, a gwisgo Aaron â'r siaced, mantell yr effod, yr effod ei hun a'r ddwyfronneg, a gosod wregys yr effod am ei ganol.

6. Gosod y benwisg ar ei ben, a rho'r goron gysegredig ar y benwisg.

7. Cymer olew'r ennaint a'i dywallt ar ei ben, a'i eneinio.

8. Yna tyrd â'i feibion, a'u gwisgo â'r siacedau;

9. rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.

10. “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29