Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Enwir y deuddeg maen ar ôl meibion Israel, a bydd pob un fel sêl ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.

22. Ar gyfer y ddwyfronneg gwna gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,

23. a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.

24. Rho'r ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,

25. a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28