Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:24-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Paid ag ymgrymu i'w duwiau, na'u gwasanaethu, a phaid â gwneud fel y maent hwy yn gwneud; yr wyt i'w dinistrio'n llwyr a dryllio'u colofnau'n ddarnau.

25. Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.

26. Ni bydd dim o fewn dy dir yn erthylu nac yn ddiffrwyth; rhoddaf i ti nifer llawn o ddyddiau.

27. Byddaf yn anfon fy arswyd o'th flaen, ac yn drysu'r holl bobl y byddi'n dod yn eu herbyn, a gwnaf i'th holl elynion droi'n ôl.

28. Byddaf yn anfon cacwn o'th flaen i yrru ymaith yr Hefiaid, y Canaaneaid, a'r Hethiaid o'th olwg.

29. Ond ni fyddaf yn eu gyrru hwy i gyd allan o'th flaen yr un flwyddyn, rhag i'r wlad fynd yn anghyfannedd ac i'r anifeiliaid gwyllt amlhau yn dy erbyn.

30. Fe'u gyrraf allan o'th flaen fesul tipyn, nes iti gynyddu digon i feddiannu'r wlad.

31. Gosodaf dy derfynau o'r Môr Coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r anialwch hyd afon Ewffrates; byddaf yn rhoi trigolion y wlad yn eich dwylo, a byddi'n eu gyrru allan o'th flaen.

32. Paid â gwneud cyfamod â hwy nac â'u duwiau.

33. Ni fyddant yn aros yn y wlad, rhag iddynt wneud i ti bechu yn f'erbyn; os byddi'n gwasanaethu eu duwiau, bydd hynny'n dramgwydd i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23