15. Ond os oedd ei berchennog gydag ef, nid yw i dalu'n ôl; os oedd ar log, yna'r llog sy'n ddyledus.
16. “Pan yw rhywun yn hudo gwyryf nad yw wedi ei dyweddïo, ac yn gorwedd gyda hi, y mae i roi gwaddol amdani, a'i chymryd yn wraig.
17. Ond os yw ei thad yn gwrthod yn llwyr ei rhoi iddo, y mae i dalu arian sy'n gyfwerth â'r gwaddol am wyryf.
18. “Paid â gadael i ddewines fyw.
19. “Pwy bynnag sy'n gorwedd gydag anifail, rhodder ef i farwolaeth.
20. “Pwy bynnag sy'n aberthu i unrhyw dduw heblaw'r ARGLWYDD yn unig, distrywier ef yn llwyr.
21. “Paid â gwneud cam â'r estron, na'i orthrymu, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft.
22. Peidiwch â cham-drin y weddw na'r amddifad.
23. Os byddwch yn eu cam-drin a hwythau'n galw arnaf, byddaf yn sicr o glywed eu cri.
24. Bydd fy nicter yn cael ei gyffroi, ac fe'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.
25. “Pan fenthyci arian i unrhyw un o'm pobl sy'n dlawd yn eich plith, paid ag ymddwyn tuag ato fel y gwna'r echwynnwr, a phaid â mynnu llog ganddo.
26. Os cymeri fantell dy gymydog yn wystl, yr wyt i'w rhoi'n ôl iddo cyn machlud haul,
27. oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.
28. “Paid â chablu Duw, na melltithio pennaeth o blith dy bobl.
29. “Paid ag oedi offrymu o'th ffrwythau aeddfed neu o gynnyrch dy winwryf.“Yr wyt i gyflwyno i mi dy fab cyntafanedig.
30. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th ychen a'th ddefaid; bydded pob un gyda'i fam am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd cyflwyner ef i mi.