10. “Pan yw rhywun yn rhoi asyn, ych, dafad, neu unrhyw anifail i'w gymydog i'w gadw iddo, a'r anifail yn marw, neu'n cael ei niweidio, neu ei gipio ymaith, heb i neb ei weld,
11. y mae'r naill i dyngu i'r llall yn enw'r ARGLWYDD nad yw wedi estyn ei law at eiddo'i gymydog; y mae'r perchennog i dderbyn hyn, ac nid yw'r llall i dalu'n ôl.
12. Ond os cafodd ei ladrata oddi arno, y mae i dalu'n ôl i'r perchennog.
13. Os cafodd ei larpio, y mae i ddod â'r corff yn dystiolaeth, ac nid yw i dalu'n ôl am yr hyn a larpiwyd.
14. “Pan yw rhywun yn benthyca anifail gan ei gymydog, a hwnnw'n cael ei niweidio, neu'n marw heb i'w berchennog fod gydag ef, y mae'r sawl a'i benthyciodd i dalu'n ôl yn llawn.
15. Ond os oedd ei berchennog gydag ef, nid yw i dalu'n ôl; os oedd ar log, yna'r llog sy'n ddyledus.
16. “Pan yw rhywun yn hudo gwyryf nad yw wedi ei dyweddïo, ac yn gorwedd gyda hi, y mae i roi gwaddol amdani, a'i chymryd yn wraig.
17. Ond os yw ei thad yn gwrthod yn llwyr ei rhoi iddo, y mae i dalu arian sy'n gyfwerth â'r gwaddol am wyryf.
18. “Paid â gadael i ddewines fyw.
19. “Pwy bynnag sy'n gorwedd gydag anifail, rhodder ef i farwolaeth.