Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 19:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Edrych, fe ddof atat mewn cwmwl tew er mwyn i'r bobl fy nghlywed yn llefaru wrthyt ac ymddiried ynot am byth.”

10. Pan fynegodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho hefyd, “Dos at y bobl, a chysegra hwy heddiw ac yfory; boed iddynt olchi eu dillad,

11. a bod yn barod erbyn y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe ddaw'r ARGLWYDD i lawr ar Fynydd Sinai yng ngolwg yr holl bobl.

12. Gosod ffin o amgylch y mynydd, a dywed, ‘Gwyliwch rhag i chwi fynd i fyny i'r mynydd na chyffwrdd â'i ffin; oherwydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r mynydd, fe'i rhoddir i farwolaeth

13. trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb â'i gyffwrdd â'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.’ Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd.”

14. Yna aeth Moses i lawr o'r mynydd at y bobl, a'u cysegru; a golchasant eu dillad.

15. Dywedodd wrthynt, “Byddwch barod erbyn y trydydd dydd, a pheidiwch â mynd yn agos at wraig.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 19