Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 18:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ac Elieser oedd enw'r llall: “Oherwydd,” meddai, “bu Duw fy nhad yn gymorth imi, ac fe'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.”

5. Daeth Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, â meibion Moses a'i wraig ato i'r anialwch lle'r oedd yn gwersyllu wrth fynydd Duw,

6. a dweud wrth Moses, “Yr wyf fi, Jethro dy dad-yng-nghyfraith, wedi dod atat gyda'th wraig a'i dau fab.”

7. Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar ôl iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 18