Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 18:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Boed iddynt hwy farnu'r bobl ar bob achlysur; gallent ddod â phob achos anodd atat ti, ond hwy eu hunain sydd i farnu pob achos syml. Bydd yn ysgafnach arnat os byddant hwy'n rhannu'r baich â thi.

23. Os gwnei hyn, a hynny ar orchymyn Duw, gelli ddal ati; ac fe â'r bobl hyn i gyd adref yn fodlon.”

24. Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith, a gwnaeth bopeth a orchmynnodd ef.

25. Dewisodd wŷr galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.

26. Hwy oedd yn barnu'r bobl ar bob achlysur; deuent â'r achosion dyrys at Moses, ond hwy eu hunain oedd yn barnu'r holl achosion syml.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 18