Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 16:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai.

2. Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch,

3. a dweud wrthynt, “O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 16