Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Cadwch hefyd ŵyl y Bara Croyw, am mai ar y dydd hwn y deuthum â'ch lluoedd allan o wlad yr Aifft; am hynny y mae'r dydd hwn i'w gadw'n ddeddf am byth dros y cenedlaethau.

18. Yr ydych i fwyta bara croyw o hwyrddydd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf hyd yr hwyr ar yr unfed dydd ar hugain.

19. Am saith diwrnod nid ydych i gadw surdoes yn eich tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd yn cael ei ddiarddel o gynulleidfa Israel, boed yn estron neu'n frodor.

20. Peidiwch â bwyta dim sydd wedi ei lefeinio, ond ym mha le bynnag yr ydych yn byw, bwytewch fara croyw.”

21. Yna galwodd Moses ynghyd holl henuriaid Israel, a dweud wrthynt, “Dewiswch yr ŵyn ar gyfer eich teuluoedd, a lladdwch oen y Pasg.

22. Yna cymerwch dusw o isop a'i drochi yn y gwaed fydd yn y cawg, a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws; nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore.

23. Bydd yr ARGLWYDD yn tramwyo drwy'r Aifft ac yn taro'r wlad, ond pan wêl y gwaed ar gapan a dau bost y drws, bydd yn mynd heibio iddo, ac ni fydd yn gadael i'r Dinistrydd ddod i mewn i'ch tai i'ch difa.

24. Cadwch y ddefod hon yn ddeddf i chwi a'ch plant am byth.

25. Yr ydych i gadw'r ddefod hon pan ddewch i'r wlad y bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi yn ôl ei addewid.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12