1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf am ddwyn un pla arall ar Pharo ac ar yr Aifft; ar ôl hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd; a phan fydd yn eich rhyddhau, bydd yn eich gyrru oddi yma'n llwyr.
2. Dywed wrth y bobl am i bob gŵr a gwraig ohonynt gymryd benthyg tlysau arian a thlysau aur gan ei gymydog.”
3. Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r bobl gael ffafr gan yr Eifftiaid. Yr oedd Moses yn ddyn pwysig iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo ac yng ngolwg y bobl.
4. Yna dywedodd Moses, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua hanner nos, byddaf yn mynd allan trwy ganol yr Eifftiaid,