Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 10:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd ryddhau'r Israeliaid.

21. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, a bydd tywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch y gellir ei deimlo.”

22. Felly estynnodd Moses ei law tua'r nefoedd, a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft am dridiau.

23. Ni allai'r bobl weld ei gilydd, ac ni symudodd neb o'i le am dri diwrnod, ond yr oedd gan yr Israeliaid oleuni yn y lle'r oeddent yn byw.

24. Galwodd Pharo am Moses a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD; caiff eich plant hefyd fynd gyda chwi, ond rhaid i'ch defaid a'ch gwartheg aros ar ôl.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 10